Hafan.Babanod.Plant.Oedolion.Gwybodaeth.
Hawlfraint | Copyright ©2009 All rights reserved.

Lliwiau Dillad

Nid ydym yn cynnig dewis o liw ar gyfer pob cynllun. Os mai mewn inc nefi ar gefndir glas golau y mae cynllun yn ymddangos yn y catalog neu ar y wefan hon, dyna’r lliw fydd yn cael ei gyflenwi.

Fodd bynnag, os fydd cwsmer yn dymuno archebu hoodie un o’r cynlluniau sydd yn ymddangos ar gefndir gwyn yn y catalog, yna byddwn yn cynnig dewis o liw (glas golau neu binc golau). Gofynir i’r cwsmer nodi ei ddewis yn y blwch ‘Anghenion Arbennig’ ar y ffurflen archebu (yn y cam wedi i chi glicio’r botwm ‘Prynu’.

Prisiau

 

Bib £6

T Baban/Plentyn £10

T Sgini Plentyn £10

Hoodie Baban/Plentyn £20

Crys T/Sgini Oedolyn £15

Hoodie Oedolyn £30

Hoodie Masnach Deg £36

Bagiau £6

Prosesu Archebion

 

Mae Celtes yn prosesu archebion a dderbynir ar y we o fewn 2 ddiwrnod o'u derbyn. Er hynny, mae dillad weithiau allan o stoc gyda'n cyflenwyr felly gall archeb gymeryd hyd at 14 niwrnod i'w chyflenwi. Os fod gennych anghenion arbennig (e.e. fod yr eitem yn anrheg penblwydd) nodwch hyn yn y blwch ‘Anghenion arbennig’ ar y ffurflen archebu - fel y gallwn gysylltu â chi ar unwaith os fydd problem. Ffoniwch 01994 231666 os fod gennych ymholiad.

Dychwelyd Eitem

 

Gallwch dderbyn ad-daliad llawn (o fewn 30 niwrnod o brynu’r eitem) neu gyfnewid eitem am un arall. Yn y ddau achos dylid sicrhau fod yr eitem a ddychwelir yn lân ac heb ei wisgo. Y cwsmer fydd yn gyfrifol am unrhyw gostau  cludo ychwanegol.

 

Dylid postio’r pecyn i’r cyfeiriad hwn: Celtes, Blwch Post 57, Caerfyrddin, SA33 4YB. Dylid cynnwys eich manylion a’ch dewis o ddilledyn newydd.

Dylech dderbyn prawf wrth eich Swyddfa Bost eich bod wedi dychwelyd eitem - mae hyn yn rhad ac am ddim.)

Costau Dosbarthu

 

Bib £1.50

Crysau T (plant) £1.50

Crysau T Oedolion £2.00

Hoodies (babanod a phlant) £2.50

Hoodies (oedolion) £3.00

Bagiau £1.50

CELTES

Blwch Post 57

CAERFYRDDIN

SA33 4YB

Ffôn: 01994 231666

www.celtes.co.uk

Gwybodaeth  |  Information